Nid oes gwrthddrych ar y ddaear
A leinw'm henaid gwerthfawr drud;
Fy unig bleser a'm dyddanwch,
Yw hyfryd wedd
dy wyneb-pryd;
Gwedd dy wyneb dyr y c'lymau,
A phob creadur ar y llawr;
Ac a wna câr a chyfaill
Ym ddim, er mwyn
ei enw mawr.
Ni ddichon byd a'i holl deganau
Fodloni fy serchiadau'n awr;
A enillwyd, a ëangwyd,
Yn nydd nerth fy Arglwydd mawr:
Efe nid llai, a all eu llenwi,
Er mai ddiamgyffred yw,
O am syllu ar ei Berson,
Rhyfeddod pob rhyfeddod yw.
Tywyned haulwen ar fy enaid,
Blinais ganwaith ar y nos;
Nid yw'm hawddfyd, na'm pleserau,
Na'm heilunod, ond fy nghroes:
Mynwes Iesu yw'm dedwyddwch,
Yno 'rwy'n dymuno bod;
Fe roe cariad dwyfol perffaith;
Fy holl eilunod dan fy nhroed.
Arogli'n beraidd mae fy Nardus,
Wrth wledda ar y cariad rad;
Sêl yn tanio yn erbyn pechod,
Caru delw sancteiddhâd:
Tynu ymaith law a llygad,
Ynghyd âg uchel drem i lawr;
Neb yn deilwng o'i dderchafu,
Ond fy Iesu, Frenin mawr.
O am yfed yma beunydd
O ffrydiau'r iachawdwriaeth fawr;
Nes fy nghwbwl ddisychedu
Am ddarfodedig bethau'r llawr:
Byw dan ddysgwyl am fy Arglwydd,
Bod, pan ddelo, yn effro iawn
I agoryd iddo'n ebrwydd
A mwynhâu ei ddelw'n llawn.
Rhyfeddu a wnaf â mawr ryfeddod,
Pan ddêl i ben y ddedwydd awr;
Câf wel'd fy meddwl,
sy yma'n gwibio,
Ar ôl teganau gwael y llawr,
Wedi ei sefydlu yn gyfan,
Ar wrthrych mawr ei Berson Ef,
A diysgog gydymffurfio
 phur a sanctaidd ddeddfau'r nef.
- - - - -
Nid oes wrthddrych ar y ddaear
Leinw'm henaid gwerthfawr drud,
Fy holl bleser a'm dyddanwch
Ydyw gwedd dy wyneb pryd;
Gwedd dy wyneb ysgar rhyngwyf
A phob eilun ar y llawr;
Nid yw enwau câr na chyfaill
Ddim i mi wrth d'enw mawr.
Coded heulwen ar fy enaid,
Blinais ganwaith ar y nos;
Nid yw'm hawddfyd, na'm pleserau,
Na'm heilunod, ond fy nghroes:
Mynwes Iesu yw'm dedwyddwch,
Yno 'rwy'n dymuno bod;
Gall ei gariad dwyfol perffaith
Roi pob eilun dan fy nhroed.
1,3,4,5: Ann Griffiths 1776-1805
Tonau [8787D / 9898D]:
gwelir: |
There is no object on the earth
Which fills my precious, dear soul;
My only pleasure and my interest,
Is the delightful aspect
of thy countenance;
The aspect of thy face turns the knots,
And every creature on the ground;
And makes lover and friend
As nothing, for the sake
of his great name.
The world and all its trinkets cannot
Satisfy my affections now,
Which were won, and broadened
In the day of the power of my great Lord;
He, no less, it is can fill them,
Although so incomprehensible it is,
O to gaze on his Person,
Wonder of all wonders it is!
May the sun shine on my soul,
I am wearied a hundred-fold of the night;
My enjoyment, my pleasure,
My idols, are only my cross:
The breast of Jesus is my interest,
There I am wishing to be;
His perfect divine love can put
All my idols beneath my feet.
Smelling sweetly is my Nard,
While feasting on the gracious love;
Zeal striking against sin,
Loving the image of holiness:
Pulling off hand and eye,
Together with haughty gaze down;
None worthy of his exaltation,
But my Jesus, great King.
Oh to drink here daily
From the streams of the great salvation;
Until my thirst is completely quenched
For the vanishing things of the earth:
To live while expecting my Lord,
To be, when he comes, very awake
To open to him swiftly
And enjoy his image fully.
Amazed I shall be with a great amazement,
When the happy hour comes;
I may get to see my thought,
which here is fleeting,
After the base trinkets of earth,
Established totally,
On the great object of His Person,
Which shall dislodge conforming
With the pure and holy laws of heaven.
- - - - -
There is no object on the earth
Fills my precious dear soul,
All my pleasure and my interest
Is the aspect of thy countenance;
The aspect of thy face will separate me
From every idol on the earth;
No name of lover or friend is
Anything to me beside thy great name.
May the sun rise on my soul,
I am weary a hundred-fold of the night;
My enjoyment, my pleasures,
My idols, are only my cross:
The breast of Jesus is my interest,
There I am wishing to be;
His divine, perfect love can
Put every idol under my feet.
tr. 2013,18 Richard B Gillion |
|